SL(5)388 - Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019
Cefndir a Diben
Mae'r Rheoliadau hyn yn cynyddu ffioedd penodol sy'n daladwy i Weinidogion Cymru am amrywiol drwyddedau, arolygiadau, gwiriadau a gwaith sy'n ymwneud ag iechyd planhigion. Maent yn diddymu'r gyfundrefn ffioedd bresennol ar gyfer y ffioedd hynny sydd i'w cynyddu.
Gweithdrefn
Negyddol.
Craffu ar faterion technegol
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2.
Rhinweddau: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:
Rheol Sefydlog 21.3(i) – ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu awdurdod lleol neu gyhoeddus er mwyn cydnabod unrhyw drwydded, cydsyniad neu unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath
Mae'r Rheoliadau hyn yn cynyddu ffioedd sydd i'w talu i Weinidogion Cymru yn yr amgylchiadau a ddisgrifir uchod.
Goblygiadau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd
Ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd yr offeryn hwn yn dod yn rhan o gyfraith yr UE ar ddargedwir.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
19 Mawrth 2019